Cynadleddau, Cyfarfodydd, Digwyddiadau
Mae Campws Felin-fach mewn lle canolog a hawdd ei gyrraedd. Saif yn Nyffryn Aeron yng nghanol Ceredigion, ar y brif ffordd (A482) rhwng tref farchnad Llanbedr Pont Steffan a thref arfordirol Aberaeron. Mae’n ddewis perffaith a chyfleus ar gyfer cynadleddau undydd neu gyfarfodydd byr, gydag adnoddau o safon uchel sy’n cynnwys cyswllt di-wifr a pharcio am ddim!
Mae Campws Felin-fach yn cynnwys y Theatr, sydd â llwyfan eang ac awditoriwm 260 sedd sydd wedi ei gosod ar oledd (“raked”), a’r Ganolfan sy'n cynnwys nifer o ystafelloedd cyfarfod a hyfforddiant. Mae'r adnoddau yn y ddau yn addas ar gyfer cynnal cyfarfodydd, sesiynau creadigol, ymarferion a chynadleddau. Yn ogystal ag amrywiaeth o adnoddau technegol, mae yma Uned Reprograffeg sy’n gallu darparu bob math o wasanaeth argraffu a llungopïo, taflenni, posteri, llyfrynnau a baneri. Gall Caffi Felin-fach ddarparu amrywiaeth o luniaeth yn ôl eich anghenion.
Ceir yma nifer o ystafelloedd cyfarfod sy'n amrywio o ran maint a naws, o rai ar gyfer cyfarfodydd bychain iawn hyd at rai sy'n dal 260 o bobl. Mae gan Gampws Felin-fach adnoddau clyweled o'r radd flaenaf, gan gynnwys taflunydd digidol sgrin fawr, taflunydd mewn amryw o’r ystafelloedd cyfarfod, system ddiwifr gyhoeddus a Stiwdio Sain a Recordio.
Mae Campws Felin-fach yn gwasanaethu Adran Addysg a Gwasanaethau Diwylliannol Cyngor Sir Ceredigion yn ogystal â’r gymuned ehangach. Mae hefyd yn cynnig cartref i nifer o gymdeithasau eraill, gan gynnwys CFFI Ceredigion, Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion a Cered, Menter Iaith Ceredigion. Mae’r Campws yn lle bywiog iawn gyda’r nos hefyd gyda nifer o gymdeithasau a grwpiau'n cyfarfod neu’n ymarfer. Mae yma awyrgylch glos a Chymreig ac mae’r tîm sy’n gwasanaethu’r campws yn gwbl ddwyieithog. Cewch yma groeso cynnes!
Cysylltwch â ni am wybodaeth bellach a phrisiau.








